Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (267) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 5 a 7. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2, 4 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y cwestiynau.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
4 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel
Dechreuodd yr eitem am 14.27
NDM5764 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i
Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2015.
Derbyniwyd y Cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith
Dechreuodd yr eitem am 15.10
NDM5763 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig;
2. Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc Datblygu i Gymru, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a, lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
TYNNWYD YN ÔL
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 1, ar ôl 'diwallu', mewnosod 'yn llawn'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 2, dileu 'Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
9 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu Banc Datblygu i Gymru sydd wedi'i gynllunio i:
a) cefnogi busnesau bach i gael mynediad at gyllid a chymorth;
b) datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys allforio a mewnfuddsoddi; ac
c) ariannu prosiectau seilwaith mawr, a fyddai hefyd yn egluro rôl Cyllid Cymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
44 |
48 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu yn llawn anghenion busnesau bach ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc Datblygu i Gymru, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a, lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
4 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio
7 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.48
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.50
NDM5766 Keith Davies (Llanelli)
Ysgogi'r economi yng ngorllewin Cymru.
Defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i hybu twf.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.12
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2015